Bydd ein hystod amrywiol o Hyfforddiant Athrawon yn eich helpu i ddatblygu a chyflwyno addysg ariannol effeithiol a diddorol yn y cwricwlwm uwchradd mewn ffordd sy’n adlewyrchu bywyd go iawn ac yn berthnasol i’ch myfyrwyr.
Lluniwyd Mae’ch Arian o Bwys i’w ddefnyddio gyda phobl ifanc 14 – 16 oed ac mae’n ymdrin â phynciau fel gwario a chynilo, benthyca, dyled, yswiriant, cyllid myfyrwyr a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma’r gwerslyfr addysg ariannol cyntaf, ac ar ôl iddo gael ei gyflwyno’n llwyddiannus mewn ysgolion yn Lloegr yn 2018, rydym yn gyffrous i gyflwyno fersiynau penodol ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau a Martin Lewis, sef sylfaenydd MoneySavingExpert.com, wedi rhannu cost datblygu’r argraffiadau hyn o Mae’ch Arian o Bwys sy’n benodol i wledydd unigol.
Gallwch lawrlwytho pob rhifyn o’r Gwerslyfr, ynghyd â’r canllaw i athrawon, yn rhad ac am ddim trwy ddilyn y dolenni isod.
Ydych chi wedi defnyddio Mae’ch Arian o Bwys gyda’ch myfyrwyr?
Mae Young Money, gyda Young Enterprise yr Alban a Young Enterprise Gogledd Iwerddon, wedi ffurfio partneriaeth gydag Ysgol Fusnes Prifysgol Caeredin i werthuso effaith Mae’ch Arian o Bwys mewn ysgolion ledled y Deyrnas Unedig.
Rydym yn chwilio am ysgolion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i gyfranogi yn y gwerthusiad hwn trwy gwblhau arolygon a chymryd rhan mewn astudiaethau achos. Mae’r cyfleoedd gwerthuso sydd ar gael ychydig yn wahanol ar gyfer pob gwlad, felly cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod mwy am sut gallwch gymryd rhan.
Dysgwch fwy am werthusiad Mae’ch Arian o BwysMae’r gwerslyfr yn cynnwys ffeithiau a gwybodaeth yn ogystal â gweithgareddau rhyngweithiol a chwestiynau er mwyn i’r myfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth.
Mae’r penodau fel a ganlyn:
Mae canllaw cysylltiedig i athrawon ar gael i roi cymorth ychwanegol iddynt. Mae’n amlygu meysydd arfer da, yn rhoi enghreifftiau o integreiddio’r cwricwlwm, ac yn dangos cymorth allanol ychwanegol y gall ysgolion ei ddefnyddio i gyfoethogi eu darpariaeth addysg ariannol.
Mae’r gwerslyfr Your Money Matters gwreiddiol i’w ddefnyddio yn Lloegr (argraffiad wedi’i ddiweddaru, mis Ionawr 2021) ar gael i’w lawrlwytho.
Ewch i Argraffiad LloegrMae’r gwerslyfr Your Money Matters i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon ar gael i’w lawrlwytho.
Ewch i Argraffiad Gogledd IwerddonMae’r gwerslyfr Your Money Matters i’w ddefnyddio yn yr Alban ar gael i’w lawrlwytho.
Ewch i Argraffiad yr AlbanMae’r gwerslyfr Mae’ch Arian o Bwys i’w ddefnyddio yng Nghymru ar gael i’w lawrlwytho yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ewch i Argraffiad CymruBydd ein hystod amrywiol o Hyfforddiant Athrawon yn eich helpu i ddatblygu a chyflwyno addysg ariannol effeithiol a diddorol yn y cwricwlwm uwchradd mewn ffordd sy’n adlewyrchu bywyd go iawn ac yn berthnasol i’ch myfyrwyr.
Gallwch hefyd fynd i’r hwb adnoddau i gael amrywiaeth o adnoddau a deunyddiau addysgu addysg ariannol y gellir eu defnyddio i ategu’r gweithgareddau a geir yn Mae’ch Arian o Bwys.
Sylwch ein bod wedi cael gwybod am sefydliad sy’n cysylltu ag unigolion yn gofyn am roddion mewn perthynas â’r Gwerslyfr. Ni fyddem byth yn gofyn i unigolion am roddion tuag at y Gwerslyfr ac nid ydym wedi awdurdodi unrhyw sefydliad i wneud hyn ar ein rhan. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040.